Gyda chymaint o gyllidwyr bellach yn gofyn am dystiolaeth o angen a chefnogaeth y gymuned, a yw'r syniad o gynnal ymgynghoriad cymunedol yn eich dychryn? Neu a ydych chi'n poeni y bydd yn costio ffortiwn? Ymunwch â'n hyfforddiant Ymgynghori Cymunedol AM DDIM i roi hwb i'ch hyder a deall pa gamau syml y gallwch chi eu cymryd eich hunain.
Bydd y sesiwn yn rhoi sylw i’r canlynol:
* Pam mae angen i chi gynnal ymgynghoriad cymunedol?
* Sut bydd hyn yn eich helpu chi gyda cheisiadau am grantiau?
* Beth yw 'ymgynghoriad cymunedol neu gymdogaeth'?
* Gyda phwy mae angen i chi ymgynghori mewn ymgynghoriad cymunedol?
* Sut i gynnal ymgynghoriad cymunedol.
* Sut i sicrhau bod eich tystiolaeth o ansawdd da.
* Beth yw manteision cynnal ymgynghoriad cymunedol da?