🎄🎅🏻❄️🎁 Bydd dathliad Nadolig Gŵyl y Felinheli fymryn yn wahanol ’leni…
Ar ôl ambell flwyddyn o gynnal Marchnad Nadolig, ’da ni wedi penderfynu dychwelyd at wir ysbryd y Nadolig yn y pentra.
’Leni, rydan ni’n cynnal y digwyddiad yn hwyrach, dim ond pedwar diwrnod cyn y Nadolig ei hun. Erbyn hynny, mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi gorffen ein siopa ’dolig, ac yn hytrach na chrwydro stondinau, mi gawn ni gyfle i fwynhau bod efo’n gilydd – yn canu carolau, cwrdd â Siôn Corn, a mwynhau awyrgylch yr ŵyl.
Mae'r Nadolig yn amser arbennig yn y pentra. Mae nifer o’n pobol ifanc adra o'r brifysgol, ac mae teuluoedd yn dychwelyd dros gyfnod y Nadolig. Rydan ni’n cael cyfle i weld cymdogion nad ydan ni wedi'u gweld ers misoedd. Mae'n gyfle pwysig i’r gymuned ailgysylltu. Ac weithiau, tydi marchnad ddim y lle gorau i stopio am sgwrs, a theimlo cyffro'r Nadolig.
Felly ’leni, rydan ni’n rhoi'r pwyslais yn ôl ar hwyl yr ŵyl. Bydd Siôn Corn a chrefftau Nadoligaidd i'r plant, a chyfle i’r oedolion fwynhau canu carolau efo gwin cynnes a mins pei. Rydan ni hefyd yn cynnal cystadleuaeth addurno cacen Nadolig - unrhyw gacen ar thema’r Nadolig, wedi'i phobi gan unigolyn, teulu, neu grŵp o ffrindiau o unrhyw oed. Dewch â'ch cacen i'r Neuadd Goffa i gael ei beirniadu erbyn 4pm.
Felly, ymunwch â ni yn y Neuadd Goffa ar 21 Rhagfyr, rhwng 4–6pm, i ddathlu'r ŵyl a rhannu ’chydig o hud y Nadolig. ✨
🎄🎅🏻❄️🎁 Gŵyl y Felinheli are doing things a little differently with our Christmas celebration this year…
After a few years of running a Christmas Market, we’ve decided to return to the true spirit of our village Christmas - the way it used to feel.
This year, we’re bringing the event closer to the big day itself, just four days before Christmas. By then, most of us have finished the shopping, and rather than browsing stalls, we can simply enjoy being together - singing carols, meeting Siôn Corn, and enjoying the festive atmosphere.
Christmas is a special time in the village. People home from university, families returning for the festive period, neighbours we may not have seen for months - it’s a moment when the community reconnects. And sometimes a market doesn’t give us the space to pause, chat, and feel that spark of Christmas excitement.
So we’re changing things this year and putting the emphasis back on festive cheer.
We’ll have a Santa’s grotto and Christmas crafts for the children, while the adults can enjoy carol singing with mulled wine and mince pies. We’re also holding a Christmas cake-decorating competition - any Christmas-themed cake is welcome, whether baked by an individual, a family, or a group of friends of any age. Bring your creation to the Memorial Hall to be judged by 4pm on 21 December.
Join us at the Memorial Hall on 21 December, between 4–6pm, to celebrate the season and share a little Christmas magic.✨
Also check out other Contests in Bangor, Meetups in Bangor.