Balch ydym o neidio ar Wrecsograd - cwpwl o gigs ar y tren Eisteddfodol (via WrecsAmGen i naddu pyn na fedrir ei wrthod)
Bydd Wrecsograd A yn glanio'n Y Lab nos fercher,
..yn cario Pys Melyn, Crinc, Hap a Damwain, Yr Onglau.
Yng Nghanolfan Dôl yr Eryrod dafliad carreg dros bont o'r Stryd Fawr.
Croeso i bawb, £10 ar y drws (£5 dan 16).
Bwyty caboledig yn y feniw, a'r meniw i'w weld isod pan ddaw...
A clywir clacian Wrecsograd B yn stopio'n Y Mynach Meddw neu'r Drunk Monk, ar nos wener Eisteddfod Wrecsam.
..yn cario Peiriant, Osgled, Tai Haf Heb Drigolyn
Ewch drwy'r llwybr cul, cudd a thywyll o'r Stryd Fawr at yr Eglwys (neu'r Overton Arcade yn nhermau modern).
Dros 18
£10 ar y drws. Papur os bosib.
Yr arian i gyd yn mynd i'r bandiau'n hafal Sofietaidd.