Mae’r pantri cymunedol wedi bod yn cael ei gynnal yn wythnosol yn Yr Orsaf ers dros bedair blynedd - ac yn tyfu o nerth i nerth. Mae’n wasanaeth sydd yn cynnig bwyd dros ben o archfarchnadoedd yn rhad ag am ddim, ac yn dosbarthu bwyd lleol dros ben i drigolion Dyffryn Nantlle, i leihau gwastraff.
Mae’r Pantri newydd am fod yn gartref parhaol i brosiectau bwyd Yr Orsaf - sy’n cynnwys y pantri ei hun, siop fwyd ffres, a gegin biclo i rhannu sgiliau ac arbrofi gyda dulliau wahanol i gadw bwyd.
Ymunwch hefo ni ar gyfer lansiad y Pantri (Yn yr hen swyddfa bost) am ddiwrnod o weithgareddau a bwyd - a dysgu mwy am y prosiect. Croeso mawr i bawb.
*******************************************************************
The community pantry has been held weekly at Yr Orsaf for over four years – and has gone from strength to strength. It is a service that offers surplus supermarket food free of charge, and distributes surplus local food to the residents of Dyffryn Nantlle, to reduce waste.
The new Pantry will be a permanent home for Yr Orsaf’s food projects – which include the pantry itself, a fresh food shop, and a pickling kitchen to share skills and experiment with different ways of preserving food.
Join us for the launch of the Pantry (in the old post office) for a day of activities and food – and to learn more about the project. Everyone is very welcome.