4 hours
Wrexham University
Free Tickets Available
Tue, 21 Oct, 2025 at 04:00 pm to 08:00 pm (GMT+01:00)
Wrexham University
Mold Road, Wrexham, United Kingdom
Sgrolio i lawr am Gymraeg / Scroll down for Welsh text
16:00-20:00 Tuesday 21st October
We are inviting you to join us at Wrexham University on Tuesday 21st October, to take part in a social hackathon!
Address: Scale Up Room, Wrexham Campus, Mold Road, Wrexham LL11 2AW
This hackathon will explore how we can expand awareness of existing opportunities for girls while also reimagining what truly gender-equitable spaces look like.
While facilities are a key focus, we will also consider other critical factors — such as coaching, transportation, and overall accessibility — that shape how girls experience and engage in sport.
What to expect
Through the event you will collaborating with others and exploring equality and accessibility in multiple contexts.
You will be working as part of a team developing fresh ideas to develop fresh ideas to tackle gender equity pitching those ideas to a panel for feedback at the end of the session. The hackathon is non-competitive. We are not looking for the best idea, but for as many good ideas as we can generate to increase gender accessibility in sport.
Hackathon-generated ideas will form a cornerstone of the Gender Equity Blueprint and drive an inclusive communications campaign to amplify its impact.
Who is leading the event?
The event, is being delivered by Start Something Good at Cwmpas, whose pioneering events have taken place with thousands of people all over the country and internationally, in partnership with the Ashoka Sports For Changemaking Team, Cymru Football Foundation, Wrexham University, and Team Cymru. It is funded through the Welsh Government EURO 2025 Partner Support Fund.
Who is it for?
Everyone who wants to see sport work for all. Players at all levels, coaches, parents, businesses, academics, sports bodies, public opinion influences, government…
Young people aged 13–17 are welcome to attend, but they must be accompanied by an adult.
Register now!
The event is completely free to attend, but spaces are limited so please register if you wish to take part. Refreshments will be available during the session.
Privacy statement
Any information that you share with us will be stored securely in line with the Cwmpas GDPR policy. ( https://cwmpas.coop/privacy-policy/)
You have the right to withdraw your consent for us to use your data at any time and ask us to delete your data. If you have any questions, please contact: Y29tbWVyY2lhbHRlYW0gfCBjd21wYXMgISBjb29w
-----------
Hacathon Cymdeithasol: Cydraddoldeb rhywedd a hygyrchedd mewn chwaraeon
Prifysgol Wrecsam
Cyfeiriad: Scale Up Room, Campws Wrecsam, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW
16:00-20:00 Dydd Mawrth 21 Hydref
Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni ym Mhrifysgol Wrecsam ddydd Mawrth 21 Hydref, i gymryd rhan mewn hacathon cymdeithasol!
Bydd yr hacathon hwn yn archwilio sut y gallwn ni ehangu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sy’n bodoli i ferched ar hyn o bryd tra hefyd yn ailddychmygu sut bethau yw mannau gwirioneddol deg o ran rhywedd.
Er bod cyfleusterau’n ffocws allweddol, byddwn hefyd yn ystyried ffactorau hanfodol eraill - fel hyfforddiant, trafnidiaeth, a hygyrchedd cyffredinol - sy'n llunio sut mae merched yn profi ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon.
Beth i'w ddisgwyl
Trwy gydol y digwyddiad byddwch yn cydweithio ag eraill ac yn trafod cydraddoldeb a hygyrchedd mewn sawl cyd-destun.
Byddwch yn gweithio fel rhan o dîm sy'n datblygu syniadau newydd er mwyn mynd i'r afael â chydraddoldeb rhywedd ac yn cyflwyno'r syniadau hynny i banel i gael adborth ar ddiwedd y sesiwn. Nid yw'r hacathon yn gystadleuol. Dydyn ni ddim yn chwilio am y syniad gorau, ond am gynifer o syniadau da ag y gallwn ni er mwyn cynyddu hygyrchedd o ran rhywedd mewn chwaraeon.
Bydd y syniadau a gawn ni yn ystod yr hacathon yn un o gonglfeini’r Glasbrint Cydraddoldeb Rhywedd, ac yn sbarduno ymgyrch gyfathrebu gynhwysol i gynyddu ei effaith.
Pwy fydd yn arwain y digwyddiad?
Mae'r digwyddiad yn cael ei gyflwyno gan Dechrau Rhywbeth Da yn Cwmpas, y mae ei ddigwyddiadau arloesol wedi cael eu cynnal gyda miloedd o bobl ledled y wlad ac yn rhyngwladol, mewn partneriaeth â thîm Ashoka Sports For Changemaking, Sefydliad Pêl-droed Cymru, Prifysgol Wrecsam, a Thîm Cymru. Caiff ei ariannu drwy Gronfa Cymorth Partneriaid EURO 2025 Llywodraeth Cymru.
I bwy:
I bawb sy’n awyddus i chwaraeon fod ar gael i bawb. Chwaraewyr ar bob lefel, hyfforddwyrwyr, rhieni, busnesau, academyddion, cyrff chwaraeon, dylanwadwyr barn gyhoeddus, llywodraeth...
Mae croeso i bobl ifanc rhwng 13 a 17 oed ddod, ond rhaid iddyn nhw fod yng nghwmni oedolyn.
Cofrestrwch nawr!
Dyma ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond gan mai hyn a hyn o leoedd sydd ar gael dylech gofrestru os hoffech gymryd rhan. Bydd lluniaeth ar gael yn ystod y sesiwn.
Datganiad preifatrwydd
Bydd unrhyw wybodaeth rydych yn ei rannu gyda ni yn cael ei storio’n ddiogel yn unol â pholisi GDPR Cwmpas. ( https://cy.cwmpas.coop/preifatrwydd/)
Mae gennych yr hawl i dynnu’ch caniatâd i ni ddefnyddio’ch data yn ôl a gofyn i ni ddileu eich data unrhyw bryd. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: Y29tbWVyY2lhbHRlYW0gfCBjd21wYXMgISBjb29w os gwelwch yn dda.
Also check out other Sports events in Wrexham, Contests in Wrexham.
Tickets for Social Hackathon: Gender equality and accessibility in sport - Wrexham Uni can be booked here.
Ticket type | Ticket price |
---|---|
General Admission | Free |