Yn dilyn taith lwyddiannus ym Mhatagonia mis Tachwedd 2024, dwsin o gyngherddau ar draws y dalaith o Borth Madryn i Trefelin yn yr Andes, roedd Bryn Fôn (canu) a Mered Morris (gitâr a chanu) yn awyddus i barhau ar ôl dychwelyd i Gymru. Ond roeddynt hefyd yn awyddus i ehangu'r cyfeiliant, felly dyma wahodd y gantores a’r pianydd Lleucu Gwawr i ymuno. Maent yn perfformio caneuon gwreiddiol eu hunain, caneuon gwerin traddodiadol, ynghyd â chlasuron Cymraeg gan Dyfrig Evans, Dewi Pws, Alun Sbardun Huws ac Emyr Huws Jones.
Following a successful tour of Patagonia in November 2024, with a dozen concerts across the region from Porth Madryn to Trefelin in the Andes, Bryn Fôn (vocals) and Mered Morris (guitar and vocals) were keen to continue after returning to Wales. But they were also keen to expand the accompaniment, so they invited singer and pianist Lleucu Gwawr to join. They perform their own original songs, traditional folk songs, as well as Welsh classics by Dyfrig Evans, Dewi Pws, Alun Sbardun Huws and Emyr Huws Jones.