Ymunwch â’r Gydweithfa Wydnwch  I  Join the Coastal Resilience Collective, 28 October | Event in Morfa Borth

Ymunwch â’r Gydweithfa Wydnwch I Join the Coastal Resilience Collective

TRACC Transformative Research Actions for Resilient Coastal Communities

Highlights

Tue, 28 Oct, 2025 at 05:00 pm

3 hours

Star of the Sea Borth

Free Tickets Available

Advertisement

Date & Location

Tue, 28 Oct, 2025 at 05:00 pm to 08:00 pm (GMT+00:00)

Star of the Sea Borth

1874 High Street, Morfa Borth, United Kingdom

Save location for easier access

Only get lost while having fun, not on the road!

About the event

Ymunwch â’r Gydweithfa Wydnwch I Join the Coastal Resilience Collective
Gweithdy I Workshop

About this Event

<<< Please scroll down for the text in English>>>

Mae newid yn rhan o fywyd a’r dirwedd – yn enwedig wrth yr arfordir. Ond mae cyflymder a graddfa’r newid – yn ein hinsawdd, economi, byd natur a chymunedau – yn cynyddu ac yn rhoi pwysau ychwanegol arnom ni a’r llefydd lle’r ydym yn byw ac yn gweithio. Mae llawer o unigolion a sefydliadau eisoes yn poeni’n fawr am hyn – efallai eich bod chi yn un ohonyn nhw.

Mae UK Research and Innovation (UKRI) yn cyllido prosiect ymchwil newydd o’r enw Transformative Research Actions for Resilient Coastal Communities (TRACC). Mae’r prosiect yn cynnwys sefydlu Cydweithfa Wydnwch ar gyfer canolbarth a gogledd Cymru. Mae’r Gydweithfa Wydnwch yn grŵp o bobl a fydd yn cwrdd yn rheolaidd (ond nid yn aml iawn) dros y dair blynedd nesaf er mwyn adnabod llwybrau newydd at wydnwch cymunedau arfordirol.

Pwy ddylai gyfrannu?

Pobl o’r gymuned, o’r ardal leol a sefydliadau perthnasol fydd aelodau’r Gydweithfa Wydnwch – pobl â chanddynt amser, egni, diddordeb, gwybodaeth neu gyfrifoldeb i gymryd rhan weithredol a chydweithredol mewn ymchwil i’r mater pwysig o sut all pobl a natur ffynnu wrth yr arfordir yn y dyfodol.

Un o fwriadau penodol TRACC yw dod ag ystod amrywiol o bobl ynghyd. Efallai bod eich bywoliaeth a ffordd o fyw yn dibynnu ar yr arfordir a’r môr. Efallai eich bod yn rhan o gymuned arfordirol leol sydd eisoes yn gweithio ar fentrau lleol neu efallai bod diddordeb byw gyda chi yn yr amgylchedd leol. Efallai eich bod yn berson ifanc sydd eisiau siapio’r dyfodol. Efallai eich bod yn rhywun sy’n gallu llywio penderfyniadau yn lleol neu’n gallu ysbrydoli cymuned. Efallai eich bod yn rhan o sefydliad neu fenter leol sy’n llunio llefydd yn lleol. Efallai eich bod yn artist sy’n canfod ysbrydoliaeth yn lle yr ydych yn byw neu yn athro sy’n arwain y genhedlaeth nesaf. Efallai bod diddordeb gyda chi i fod yn llais dros natur arfordirol. Efallai eich bod yn weithgar dros gyfiawnder cymdeithasol. Efallai eich bod yn gynghorydd cymuned.

Efallai eich bod wedi cymryd rhan mewn rhywbeth fel hyn yn y gorffennol, efallai ddim. Os oes diddordeb byw gyda chi mewn gwydnwch cymunedol a chydweithio gyda phobl eraill, ymunwch â ni. Gyda’n gilydd sefydlwn gynghrair ddysgu diddorol a chyffrous.

Am beth mae’r cyfarfod hwn?

Dyma ail gyfarfod y Gydweithfa Wydnwch, ac mae croeso mawr i newydd-ddyfodiaid. Yn ystod y gweithdy, byddwch yn dysgu mwy am brosiect TRACC, er mwyn ichi allu penderfynu ydych chi eisiau ymuno â’r Gydweithfa Wydnwch. Byddwn hefyd yn gwneud peth gweithgareddau ymchwil cychwynnol er mwyn archwilio’r heriau sy’n wynebu cymunedau arfordirol yng nghanolbarth a gogledd Cymru.

Darperir lluniaeth ysgafn.

Erbyn pryd mae angen imi gofrestru?

Os gwelwch yn dda cofrestrwch erbyn dydd Mercher yr 22ain o Hydref.

Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi cysylltwch â a3NkMiB8IGFiZXIgISBhYyAhIHVr


---


Change is part of life and the landscape – especially at the coast. But the pace and scale of change - in our climate, economy, natural world and communities – is speeding up and putting extra pressure on us and the places where we live and work. Many individuals and organisations are already very concerned about this – you may be among them.

UK Research and Innovation (UKRI) are funding a new research project, the Transformative Research Actions for Resilient Coastal Communities (TRACC) project. This project involves the establishment of a Resilience Collective for mid and north Wales. The Resilience Collective is a group of people who will meet regularly (but not very frequently) over the next three years to identify new pathways to coastal community resilience.

Who should get involved?

The Resilience Collective will be made up of people from the community, local area and relevant organisations, who have the time, energy, interest, knowledge or responsibility to actively, collaboratively research the important issue of how people and nature around the coast can thrive in the future.

The Resilience Collective explicitly brings together a diverse range of people. Your livelihood and way of life may depend on the coast and sea. You might be part of a local coastal community already active in local initiatives or have a keen interest in the local environment. You may be a young person wanting to shape the future. You may be a local decision-maker or someone skilled in community mobilisation. You may be part of a local organisation or enterprise that shapes local places. You may be an artist inspired by where you live or a teacher guiding the next generation. You may be interested to act as a speaker for coastal nature. You may be an activist for social justice. You may be a community councillor.

You may have been involved in this sort of thing before, you may not. If you have a keen interest in coastal community resilience and collaborating with others, join us. Together we will establish an exciting and engaging learning alliance.

What is this meeting about?

This is the second meeting of the Resilience Collective, and newcomers are very welcome. During this workshop, you will learn more about the TRACC project, to help you decide whether you would like to join the Resilience Collective. We will also undertake some initial research activities to explore the challenges facing coastal communities in mid and north Wales.

A light meal will be provided.

When do I have to register?

Please register by Wednesday 22 October.

If you have any questions, please contact a3NkMiB8IGFiZXIgISBhYyAhIHVr


Also check out other Workshops in Aberystwyth, Meetups in Aberystwyth, Arts events in Aberystwyth.

interested
Stay in the loop for updates and never miss a thing. Are you interested?
Yes
No

Ticket Info

Tickets for Ymunwch â’r Gydweithfa Wydnwch I Join the Coastal Resilience Collective can be booked here.

Ticket type Ticket price
General Admission Free
Advertisement

Event Tags

Nearby Hotels

Star of the Sea Borth, 1874 High Street, Morfa Borth, United Kingdom
Register for Free
Ask AI if this event suits you
Advertisement
Ymunwch â’r Gydweithfa Wydnwch  I  Join the Coastal Resilience Collective, 28 October | Event in Morfa Borth
Ymunwch â’r Gydweithfa Wydnwch I Join the Coastal Resilience Collective
Tue, 28 Oct, 2025 at 05:00 pm
Free