Tocynnau/Tickets -
https://ruthinmarkethall.com/event/panedeni-east-western-folk-fusion/
(English below)
Panedeni - ensemble cerddorol unigryw hefo enw sydd yn asio’r ymadrodd Cymraeg, ‘Paned’, gyda the Adeni o Aden, Yemen.
Mae Panedeni yn cyfansoddi cerddoriaeth gyda iaith a dylanwad cerddorol Chymraeg ac Arabeg ac mae wedi ymrwymo i ehangu gorwelion a chroesi ffiniau diwylliannol, gan bylu’r llinellau rhwng cerddoriaeth werin y Dwyrain a’r Gorllewin a chanolbwyntio ar gydweithio ag unigolion anhygoel i ddod â’u profiadau unigryw nhw i flaen y gad mewn prosiect cerddorol cyffrous.
Dan arweiniad Yasmine Latkowski, rydym yn dod â thapestri cyfoethog o ddylanwadau Dwyrain Canol, Saesneg a Chymreig at ei gilydd i greu cymysgedd bywiog, amlddiwylliannol o gerddoriaeth wreiddiol. Ategir lleisiau cyfareddol Yasmine gan grŵp amrywiol o gerddorion: Tim Eastwood ar y pibau a ffidil Cymreig, Reuben Allen ar y bas, Joelle Barker a John Ramm ar offerynnau taro, Katie Stevens ar chwythbrennau, a Sam Slater ar y gitâr ac oud. Gyda’n gilydd, rydym yn plethu cyfuniad hudolus o draddodiadau gwerin y Dwyrain a’r Gorllewin, a welwyd yn FOCUS Wales 2024, Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Wrexfest 2024 gydag Akram Abdulfattah a Gŵyl Fringe Llangollen. ‘Noson fythgofiadwy o berfformiadau ysbrydoledig a swynodd y gynulleidfa o'r dechrau i'r diwedd. Roedd y digwyddiad hwn yn uchafbwynt disglair yng Ngŵyl Ymylol Llangollen, jem absoliwt a fydd yn cael ei chofio am flynyddoedd i ddod’ – Paul Keddie, Llangollen Fringe.
Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn ymroddedig i gyfansoddi cerddoriaeth sy'n pontio ieithoedd Cymraeg ac Arabeg a dylanwad cerddorol. Rydym yn cydweithio â cherddorion ar draws y wlad a’r gororau o Gymru i’r Aifft. Mae cydweithrediadau cyfansoddi caneuon eisoes wedi cynnwys cyfraniadau yn Gymraeg gan Sion Rickard o LoFi Jones a’r seren newydd Ayoub Boukhalfa sy’n dod â neges o gariad yn wyneb creulondeb yn y Dwyrain Canol.
____________________________________
Panedeni
Panedeni - a unique musical ensemble whose name fuses the Welsh phrase, Paned, for a ‘cup of tea’ with Adeni tea from Aden, Yemen.
Panedeni composes music with Welsh and Arabic language and musical influence and is committed to expanding horizons and crossing cultural borders, blurring the lines between Eastern and Western folk music.
Fronted by Yasmine Latkowski, we bring together a rich tapestry of Middle Eastern, English, and Welsh influences to create a vibrant, multicultural mix of original music. Yasmine’s captivating vocals are complemented by a diverse group of musicians: Tim Eastwood on Welsh bagpipes and violin, Reuben Allen on bass, Joelle Barker and John Ramm on percussion, Katie Stevens on woodwind, and Sam Slater on guitar and oud. Together, we weave a mesmerising blend of Eastern and Western folk traditions, which has been seen at Focus Wales 2024, Llangollen International Eisteddfod, Wrexfest 2024 with Akram Abdulfattah and Llangollen Fringe Festival. ‘An unforgettable sold-out night of inspiring performances that captivated the audience from start to finish. This event was a brilliant highlight of the Llangollen Fringe Festival, an absolute gem that will be remembered for years to come’ – Paul Keddie, Llangollen Fringe.
Supported by Arts Council Wales, we are dedicated to composing music that bridges Welsh and Arabic languages and musical influence. We are collaborating with musicians across the country and borders from Wales to Egypt. Song writing collaborations have already included contributions in Welsh from Sion Rickard of LoFi Jones and rising star Ayoub Boukhalfa who brings a message of love in the face brutality in the Middle East.
You may also like the following events from Market Hall Ruthin:
Also check out other
Music events in Mold,
Entertainment events in Mold,
Festivals in Mold.