Mae Cerdd Teifi yn agor ei bennod gyntaf gyda noson drawiadol o gerddoriaeth fyw yn Theatr Felinfach – lansiad o gerddoriaeth, cymuned ac iaith. Ar lwyfan y noson bydd Catrin Finch, Gwawr Edwards, Rhys Taylor, Ruth Edler, Llywelyn Ifan Jones, a Disgyblion Gwasanaeth Cerdd Ceredigion, gyda Sara Gibson yn arwain y lansiad.
“Fel grŵp o gerddorion proffesiynol rhyngwladol gyda gwreiddiau yng Ngheredigion, mae’n fraint dychwelyd adref ar gyfer lansiad Cerdd Teifi. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned a’n lluniodd ni, ac i ddathlu treftadaeth gerddorol gyfoethog y rhanbarth. Rydyn ni’n falch o fod yn rhan o rywbeth a fydd, gobeithio, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf ac yn cefnogi dyfodol cerdd yng Ngheredigion.” — Catrin Finch
Mae’r noson hon yn lansio menter newydd gyffrous sy’n cynnig cyngherddau cyhoeddus ledled Ceredigion, yn ogystal â gweithdai cymunedol, ymweliadau ag ysgolion a chartrefi gofal – i rannu pŵer trawsnewidiol cerddoriaeth gyda phawb.
Mae Cerdd Teifi yn uno artistiaid proffesiynol, addysg a lles cymunedol i greu pontydd cerddorol rhwng cenedlaethau ac ysbrydoli undod drwy’r celfyddydau.
_____
Cerdd Teifi begins its story with a dazzling evening of live music at Theatr Felinfach – a launch of music, community, and language.
The stage will feature performances by Catrin Finch, Gwawr Edwards, Rhys Taylor, Ruth Elder, Llywelyn Ifan Jones, and Students of Ceredigion Music Service, with Sara Gibson hosting the launch.
“As a group of international professional musicians with roots in Ceredigion, it’s a privilege to return home for the launch of Cerdd Teifi. This project is about giving something back to the community that shaped us, and to celebrate the region’s rich musical heritage.
We’re proud to be a part of something that will hopefully inspire future generations and support the future of music in Ceredigion.” — Catrin Finch
This concert launches an inspiring new venture bringing public performances across Ceredigion, alongside community events, school workshops, and visits to care settings – sharing the transformative power of music with everyone.
Cerdd Teifi unites professional musicianship, education, and community well-being, creating musical bridges between generations and inspiring connection through the arts.
You may also like the following events from Theatr Felinfach:
Also check out other
Music events in Lampeter,
Entertainment events in Lampeter,
Concerts in Lampeter.