Diwrnod o weithgareddau i gofio can mlwyddiant cyhoeddi y gyfrol 'O Gors y Bryniau' gan Dr Kate Roberts, Brenhines ein Llên.
10:00am - 12:00 (amcan hyd) Taith gerdded bro genedigol Kate dan arweiniad Alun Ffred Jones ac Arwyn Herald. Cychwyn o Ganolfan Treftadaeth Cae Gors, Rhosgadfan. Gwisgwch ar gyfer y tywydd ac ar gyfer tir corsiog a charegog. Bydd angen elfen o ffitrwydd. Llefydd cyfyngedig. manylion cofrestru:
https://www.eventbrite.com/e/1554661156369?aff=oddtdtcreator
10:00 - 11:30 Canolfan Treftadaeth Cae Gors : Sesiwn celf i blant cynradd. Cyfle i wneud gwaith celf ar lechen gyda'r artist Elen Williams, chwarae gemau erstalwm a helfa drysor. Llefydd cyfyngedig. I gofrestru cliciwch yma:
https://www.eventbrite.com/e/sesiwn-gelf-i-blant-cynradd-tickets-1504153907829?utm-campaign=social&utm-content=attendeeshare&utm-medium=discovery&utm-term=listing&utm-source=cp&aff=ebdsshcopyurl
Gyda chefnogaeth Llechi Cymru - Wales Slate
11:00am - Taith o amgylch Cae Gors, gyda Deian ap Rhisiart fel rhan o Ŵyl Drysau Agored Cadw.
12:00pm - Cae Pêl-droed Mountain Rangers - Gêm bêl-droed plant yng ngofal tîm pêl-droed Mountain Rangers.
12:30 pm - Clwb Peldroed Mountain Rangers: Sgwrs gan Dafydd Glyn Jones. Paned a chacen ar gael. Manylion archebu:
https://www.eventbrite.co.uk/e/1506064703069?aff=oddtdtcreator
1:00pm - Cae'r Gors.Taith Feic Rithiol - llefydd cyfyngedig. Oes gennych chi gysylltiad gyda Kate Roberts, Cae'r Gors neu bentref ac ardal Rhosgadfan? Dewch i rannu'ch atgofion neu hanesion trwy gyfrwng y beic digidol gan fynd am dro ar hyd llwybrau'r cof - o'r Lôn Wen i Gae'r Gors. Bydd y sesiwn yn digwydd yn y Ganolfan Dreftadaeth, Cae'r Gors. Er mwyn archebu lle: cysylltwch gyda
dGFueWNhc3RlbGwgfCBob3RtYWlsICEgY29t
2:00pm - Taith Saesneg o amgylch Cae Gors fel rhan o Ŵyl Agor Drysau Cadw, gyda Deian ap Rhisiart.
2:15pm - Clwb Mountain Rangers : Kate yn ei geiriau ei hun - cyflwyniad gan Ysgolion Cynradd Rhosgadfan a Rhostryfan.
Manylion cofrestru:
https://www.eventbrite.com/e/kate-yn-ei-geiriau-ei-hun-oed-cynradd-tickets-1507806181879?aff=oddtdtcreator
2:45pm Kate yn ei geriau ei hun - cyflwyniad gan ddisgyblion Ieuenctid ac oedolion yr ardal. Manylion Archebu:
https://www.eventbrite.com/e/kate-yn-ei-geriau-ei-hun-oed-uwchradd-tickets-1507814526839?aff=oddtdtcreator
12:00 - 4:00pm - Ysgol Gynradd Rhosgadfan. Arddangosfa Kate Roberts i gynnwys arddangosfa o Archif Prifysgol Bangor; ffotograff o Kate Roberts gan Phillip Jones Griffiths a chasgliad o luniau lleol. Galwch i fewn unrhyw bryd yn ystod y bedair awr.
7pm : Mewn Cymeriad yn cyflwyno Kate. I gadw tocynnau cysylltwch â Yr Orsaf, Penygroes - 07529 224989
Gyda chefnogaeth Llechi Cymru - Wales Slate
Mae'r digwyddiadau i gyd, ac eithro Mewn Cymeriad yn cyflwyno Kate, am ddim - ond fe fydd rhoddion tuag at redeg y diwrnod yn cael eu derbyn yn ddiolchgar.
Also check out other Arts events in Beddgelert.